Y Pwyllgor Cyllid
Finance Committee
David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
11 Tachwedd 2014
Annwyl David
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16
Diolch am eich llythyr mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a oedd yn ddefnyddiol iawn yn llywio ystyriaeth y Pwyllgor. Mae ein hadroddiad, 'Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16', a osodwyd heddiw, yn cyfeirio at lawer o'r pwyntiau a gododd yn eich llythyr.
Fel y gwyddoch, mae iechyd yn un o'r blaenoriaethau a nodwyd gan y Llywodraeth, ac mae cyllid ychwanegol sylweddol yn cael ei ddyrannu i'r sector iechyd o ganlyniad i adroddiad Nuffield. Mae aelodau'r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi pryderon nad oes canllawiau cadarn ar y diwygiadau a ddisgwylir i'r sector iechyd i gyd-fynd â'r cyllid ychwanegol hwn. Felly, mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad a ganlyn:
Mae gan y Pwyllgor bryderon am ddiwygio'r sector iechyd
a bydd yn hysbysu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y
pryderon hyn gan argymell y dylai'r pwyllgor hwnnw wneud darn o
waith ar ddiwygiadau iechyd cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid